Cyfiawnhad
Cynllun rheoli risg llifogydd
Mae SMP2 Gorllewin Cymru a Chynllun Rheoli Risg Llifogydd Gorllewin Cymru wedi nodi y byddai cynnydd sylweddol mewn risg llifogydd a chodiad yn lefel y môr yn ardal Abermaw ac mae’n argymell y dylai cynllunio tymor hir edrych ar “adlinio a ailddatblygu … i ddarparu dyfodol mwy diogel ar gyfer datblygu ardal y glannau hwn”.
Yr achos am newid
Yn wraidd i’r broblem llifogydd yn yr ardal mae dwy brif ffynhonnell. Mae’r dŵr ffo sydd yn llifo lawr o Dinas Oleu, sef bryn wedi ei leoli tu ôl i’r dref, yn gorlenwi’r system ddraenio gyfunol a’r system ddraenio o fewn y briffordd. Mae’r un systemau draenio hefyd yn cael eu cloi yn aml iawn gan ddŵr llanw. Mae’r dwr yn cronni mewn pantiau tu ôl i’r amddiffynfa bresennol gan achosi llifogydd ar y briffordd (A496) ac o fewn nifer o eiddo yn yr ardal.
Yr ail ffynhonnell yw llifogydd arfordirol. Mae hinsawdd tonnau’r harbwr yn golygu bod tonnau yn cael eu chwyddo wrth ddynesu ar lan Gerddi Cae Glas. Mae hyn yn arwain at donnau yn gorlifo ar gyfradd sy’n llethu’r seilwaith presennol.
Mae’r ardal wedi dioddef o sawl digwyddiad llifogydd dros y blynyddoedd diwethaf ac mae pryder cynyddol bod dwyster ac amlder y digwyddiadau llifogydd yma am gynyddu dros y blynyddoedd nesaf ynghyd ag amcangyfrifon newid hinsawdd (gan gynnwys cynnydd lefelau môr). Yn ychwanegol i hyn, mae’r wal fôr wedi dioddef o sawl difrod yn dilyn storm yn 2020 ac mae’r cyflwr yn parhau i ddirywio hyd heddiw.
Mae’r cynllun yn darparu safon amddiffyn (Standard of Protection (SoP)) o 1 mewn 200 mlynedd (+50 mlynedd o newid hinsawdd) i gyfanswm o 31 eiddo (24 preswyl, 7 masnachol ac 1 is-orsaf drydan).
Llifogydd Hanesyddol
Mae de Abermaw wedi dioddef o sawl digwyddiad llifogydd dros y blynyddoedd diwethaf, gyda dau ddigwyddiad yn sefyll allan – 2014 a 2020.
2014
Yn Ionawr 2014 daeth system gwasgedd isel o’r Iwerydd â ymchwyddiadau storm a thonnau pwerus i’n glannau. Wrth ychwanegu llanw uchel i hyn, gwelwyd amodau heriol iawn ar hyd lannau Cymru. Gwelwyd strwythurau atal llifogydd arfordirol yn cael eu herio i’r eithaf, gyda nifer yn cael eu difrodi. Mewn sawl lleoliad gwelwyd y tonnau yn trechu’r strwythurau gan achosi difrod i eiddo ar hyd yr arfordir.
Yn Abermaw, gwelwyd 12 eiddo o gwmpas yr harbwr yn dioddef o lifogydd mewnol: 6 preswyl a 6 masnachol. Roedd y rhan fwyaf o’r eiddo wedi eu lleoli ar Stryd yr Eglwys ac wedi eu gorlifo gan ddŵr môr wedi dod drosodd yng Ngerddi Cae Glas. Roedd y toiledau wrth yr harbwr hefyd wedi eu taro gan y llifogydd. Mae’r eiddo a effeithiwyd yn yr harbwr i gyd o fewn Ardal Rhybudd Llifogydd CNC.
2020
Difrodwyd y forglawdd bresennol yng Ngerddi Cae Glas yn ystod stormydd gaeaf 2020. Nid yw’r forglawdd bresennol yn darparu safon amddiffyn ddigonol i’r rhan yma o’r Dref, gyda’r safon amddiffyn yn gostwng ymhellach wrth ychwanegu effeithiau newid hinsawdd. Golygir hyn y bydd yr ardal yn dioddef o lifogydd cyson os nad oes unrhyw beth yn cael ei wneud i wella’r sefyllfa yn yr ardal. Mae’r difrod i’r wal bresennol wedi ei atal rhag gwaethygu drwy gynnwys creigiau o flaen y wal a drwy ddal y cerrig morglawdd gyda bagiau tywod.
Cynllun arfaethedig
Mae dyluniad y cynllun yn cynnwys:
-
Ail-adeiladu a chynyddu’r forglawdd bresennol o dan draphont Network Rail
-
Ail-adeiladu a chynyddu wal derfyn y gerddi (cynyddu uchder â panel gwydr ar y rhan uchaf)
-
Gosod 4 giât llifogydd newydd
-
Rhwydwaith dŵr wyneb a phwmp newydd i’w fewnosod o dan yr arwyneb
-
Pibell arllwys newydd i’r traeth
-
Creigiau amddiffyn o flaen y wal ac o gwmpas y bibell arllwys newydd
-
Gosod mesurau gwarchod eiddo ar yr eiddo yn ardal y Cei
-
Tirlunio ardal y gerddi
Amserlen a Chyllideb
Bydd y gwaith adeiladu yn cael ei ariannu drwy’r Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol.
Ar hyn o bryd, mae’r amserlen yn edrych fel a ganlyn:
Ionawr 2024
Rhyddhau y gwaith i dendr (er mwyn gallu penodi contractwr).
Ganol Chwefror 2024
Penodi, mewn egwyddor, contractwr.
Diwedd Chwefror 2024
Cyflwyno achos busnes terfynol i’w gymeradwyo gan Llywodraeth Cymru.
Mawrth 2024
Yn amodol i gymeradwyaeth, penodi contractwr yn derfynol.
Ebrill 2024
Yn amodol i raglen y contractwr llwyddiannus, adeiladu i gychwun.
Tachwedd 2024
Dechrau adeiladu
Gaeaf 2026
Cwblhau gwaith adeiladu
Cynllun Lliniaru Llifogydd Gerddi Cae Glas – Abermaw
FCRMU@gwynedd.llyw.cymru
YGC | Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy
Ffordd Pafiliwn
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH
Ei’n gwaith
Gwybodaeth
Mentrau
Prosiectau eraill
(01286) 679426